Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant 脭l-orfodol (AHO)
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Dysgu ac Addysg
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
£2700.00
Noder, mae鈥檙 holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
19 Medi 2025
Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
16:30
Yn gryno
Mae dyfarniadau ffurfiol yn dod yn gynyddol bwysig ar gyfer y rheiny sy'n dechrau yn y sector addysg yng Nghymru. Bydd y cyrsiau hyblyg hyn yn rhoi cymhwyster cydnabyddedig i chi i weithio yn y sector hyfforddi ac addysg 么l-orfodol (addysg i oedolion).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...rhai sydd yn gweithio fel hyfforddwr eisoes ac eisiau ennill cymhwyster ffurfiol
...ydych eisiau addysgu eraill a rhannu eich arbenigedd mewn pwnc penodol
...ydych eisiau gweithio ym maes addysg i oedolion, nid cynradd nac uwchradd
Cynnwys y cwrs
Os nad ydych wedi cwblhau gradd o'r blaen, byddwch yn dilyn y llwybr Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCE) (gweler y Gofynion Mynediad isod).
Os ydych yn raddedig, yna mae鈥檙 llwybr Tystysgrif Graddedig Broffesiynol mewn Addysg (PgCE) ar eich cyfer chi (gweler y Gofynion Mynediad isod).
Byddwch yn dysgu am y broses gyfan o baratoi, darparu a gwerthuso gwersi, o ysgrifennu cynllun gwers i ddulliau asesu. Byddwch hefyd yn cael cyfle i rannu arfer da ac i ddatblygu eich sgiliau addysgu.
Modiwlau鈥檙 Cwrs:
Blwyddyn 1
路 Cynllunio ar gyfer Dysgu
路 Asesu ar gyfer Dysgu
路 Datblygu Ymarfer Proffesiynol
Blwyddyn 2
路 Ymchwil Seiliedig ar Ymarfer
路 Llythrennedd ar gyfer Dysgu
路 Ehangu Ymarfer Proffesiynol
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, drwy gyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau. Yn ogystal 芒 hyn, bydd myfyrwyr yn cael eu harsylwi'n addysgu ar o leiaf pedwar achlysur gwahanol bob blwyddyn. Nid oes arholiadau ffurfiol.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer Tystysgrif Graddedig Broffesiynol mewn Addysg, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf radd yn y pwnc y maent yn dymuno ei ddysgu.
Rhaid i bob ymgeisydd fod mewn, neu sicrhau, lleoliad addysgu/hyfforddi ar gyfer pob blwyddyn astudio; mae tystiolaeth o 50 awr o addysgu a 20 awr o arsylwi yn ofynnol.
Fel rhan o'r broses gyfweld, bydd disgwyl i chi roi cyflwyniad pum munud o hyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cwblhau鈥檙 cwrs yn llwyddiannus yn eich cymhwyso i addysgu mewn addysg broffesiynol nad yw鈥檔 orfodol yn eich pwnc dewisol.
Os hoffech barhau 芒鈥檆h astudiaethau, gallwch fynd ymlaen i astudio MA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (PCET) neu (AB), neu lwybrau/cyrsiau cysylltiedig eraill ym maes addysg.
Byddwch yn mynd i wersi yn y coleg yn rhan-amser yn ogystal ag addysgu mewn lleoliad addysg 么l-orfodol addas. Mae hyn yn cynnwys rhwng 150 a 200 awr o addysgu yn ystod bob blwyddyn y cwrs.
Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) 拢57.20. Gorfodol Y (oni bai bod y dysgwr yn meddu ar un yn barod).
Nid yw'r cwrs hwn yn berthnasol ar gyfer addysgu o fewn y sector cynradd neu uwchradd, ac nid yw'n rhoi Statws Athro/Athrawes Cymwys (SAC) wedi i chi ei orffen.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
EPCE2865AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 19 Medi 2025
Ar 么l archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar 么l y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiat谩u os ydych chi鈥檔 bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw鈥檙 polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr