Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV C (Dosbarth 2)
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i yrru cerbydau LGV categori C (Dosbarth 2) sydd dros 7.5 tunnell mewn pwysau gros.
Nid oes cyfyngiad pwysau yn y categori hwn – cyn belled â bod y cerbyd yn gadarn (h.y. bod y cab ddim yn datgysylltu oddi wrth y trelar), gellir ei yrru gyda thrwydded LGV C.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, efallai y byddwch yn penderfynu’n hwyrach ymlaen i uwchraddio i drwydded gymalog LGV CE (Dosbarth 1).
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... rheiny sy’n 19+ oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn
... Unrhyw un sydd eisoes yn meddu ar drwydded yrru car. Nid oes angen i chi fod wedi ei meddu am gyfnod penodol o amser.
... Gyrwyr cymwys sy’n awyddus i wella eu sgiliau a dilyn gyrfa yn y diwydiant trafnidiaeth fel gyrwyr cerbyd nwyddau mawr.
Cynnwys y cwrs
Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr ar sail 1 i 1. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn dysgu sut i wirio am ddiffygion, gyrru a symud cerbydau nwyddau mawr i’r safon ofynnol.
Hyd y Cwrs: 2.5 diwrnod gan gynnwys eich prawf ymarferol
Mae dwy ran i’r prawf ymarferol:
- ymarfer symud cerbyd am yn ôl mewn 'siâp S' i fae llwytho
- gyrru ar y ffordd am 60 munud
Byddwch yn dychwelyd am ddiwrnod ychwanegol i gwblhau cymhwyster Modiwl 4 y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC), y byddwch ei angen ar gyfer defnyddio eich trwydded LGV at ddibenion gwaith.
Bydd yr opsiynau hyfforddiant yn dibynnu ar le'r ydych chi'n byw gan ein bod yn gweithio gyda dau ddarparwr hyfforddiant i ddarparu'r cwrs hwn, Heads of the Valley ac Academi Monex.
Os oes un yn well gennych na'r llall, yna nodwch hyn ar eich cais os gwelwch yn dda.
Gofynion Mynediad
Cyn yr hyfforddiant ymarferol, bydd angen i chi:
- gwblhau asesiad meddygol er mwyn gwneud cais am eich trwydded dros dro
- llwyddo yn y profion theori LGV perthnasol
Trefnir yr elfennau hyn ar eich rhan.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.
Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhauÂ
bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa yn y dyfodol
- ymrwymo i'r amser sydd ei angen
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0125AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.