91ÌÒÉ«

En

91ÌÒÉ« yn lansio Rhaglen Rhagoriaeth Pêl-droed


31 Ionawr 2025

Mae 91ÌÒÉ« yn falch o gyhoeddi ei fod wedi lansio ei Raglen Rhagoriaeth Pêl-droed mewn partneriaeth â chlwb pêl-droed lleol, Cwmbrân Celtic. Bydd y fenter gyffrous hon yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu doniau pêl-droed wrth ennill sgiliau bywyd gwerthfawr ar y cae ac oddi arno.Ìý

Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y Rhaglen Rhagoriaeth Pêl-droed o awydd clwb Cwmbrân Celtic i ehangu ei bresenoldeb yn Nhorfaen ac ymrwymiad 91ÌÒÉ« i gyfoethogi bywydau ei ddysgwyr. Gyda’i gilydd, maent wedi creu rhaglen sy’n galluogi myfrwyr i ragori ym myd pêl-droed wrth dderbyn cymorth ar gyfer eu haddysg.Ìý

Mae clwb Cwmbrân Celtic wedi bod yn gonglfaen ym myd pêl-droed Cymru ers bron 100 mlynedd. Ers cael ei sefydlu ym 1925, mae’r clwb wedi esblygu o ddechreuad gostyngedig i dîm sy’n cystadlu ar lefel De Cymru gan gynnwys carfan ym mhob grŵp oedran ac o bob gallu. Gan fod yn adnabyddus am ei ysbryd cymunedol a’i ymroddiad i bêl-droed ar lefel llawr gwlad, mae gwerthoedd y clwb yn alinio’n berffaith â chenhadaeth 91ÌÒÉ« sef “Newid bywydau trwy ddysgu.ÌýÌý

Dywedodd Jess Pike, Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr yn 91ÌÒÉ«: “Mae’r Rhaglen Rhagoriaeth Pêl-droed yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddysgwyr, os ydynt yn breuddwydio am chwarae’n broffesiynol neu’n dymuno gwella eu sgiliau. Bydd dysgwyr yn cael budd o chwarae ar faes blaenllaw clwb Cwmbrân Celtic, cael mynediad at gyfarpar arbenigol megis technoleg VEO i ddadansoddi eu perfformiad a hyfforddiant gan hyfforddwyr arbenigol clwb Cwmbrân Celtic. Bydd hyfforddwyr hefyd yn mynd i gemau’r coleg i chwilio am chwaraewyr dawnus gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr ymuno ag uwch-dimau’r clwb.â€Ìý

Dywedodd Barrie Desmond, Cadeirydd clwb Cwmbrân Celtic: “Mae creu partneriaeth â 91ÌÒÉ« yn rhoi cyfle gwych i gryfhau ein cysylltiadau â’r gymuned leol wrth greu llwybr clir i ddawn ifanc symud ymlaen i lefelau uwch o bêl-droed. Rydym yn falch o fod yn rhan o’r fenter hon sy’n cyfuno addysg a chwaraeon i ddatblygu unigolion cyflawn.”ÌýÌý

Mae’r Rhaglen Rhagoriaeth Pêl-droed yn ymuno â llawer o fentrau chwaraeon llwyddiannus eraill yn 91ÌÒÉ«, megis academïau rygbi a phêl-rwyd. Fel y rhaglenni hyn, caiff y Rhaglen Rhagoriaeth Pêl-droed ei hadeiladu’n rhan o amserlen y coleg, gan alluogi myfyrwyr i gael mynediad at y gamp ochr yn ochr â’u hastudiaethau.ÌýÌý

Dywedodd Riley Williamson, Capten y Tîm: “Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf am bartnerniaeth Cwmbrân Celtic yw’r posibilrwydd o gael cyfle i symud ymlaen i chwarae dros dîm Cwmbrân Celtic. Rwy’n hapus fy mod wedi cael fy newis fel y capten am fod y rôl yn rhoi cyfrifoldeb i mi fod yn arweinydd ar y cae yn enwedig nawr bod gennym ni garfan ifancach sy’n creu her newydd. Mae hyn hefyd yn gwneud bod yn arweinydd yn bwysicach.â€â€¯Ìý

Nod hirdymor y bartneriaeth hon yw codi safon pêl-droed yn 91ÌÒÉ« ac yn ardal Torfaen yn ehangach. Gan fod yr unig gydweithrediad pêl-droed ymroddedig o’i fath yn yr ardal, mae’r rhaglen hon yn gam sylweddol ymlaen o ran rhoi profiad hyfforddi amhrisiadwy, y posibilrwydd o chwarae ar lefelau uwch, a’r posibilrwydd o ddilyn gyrfaoedd pêl-droed proffesiynol.Ìý

I gael mwy o wybodaeth am y Rhaglen Rhagoriaeth Pêl-droed neu i gyflwyno cais, ewch yma.Ìý